Y Cwrs

Llun: Stefano Roddaro

Tyfodd Gwynfyd o un syniad syml – trwy dawelu’r meddwl rydym yn gallu ail-gysylltu â’r byd.

Wrth deithio trwy fywyd rydym yn casglu gormod o bwysau meddyliol – barnau, arferion, ofnau, ac phatrymau eraill. Mae rhai o’r arferion a’r rhaglennu yn hollol anghenreidiol – ofn tân er engraifft. Ond mae’r swn meddyliol yn ein pennau yn gallu llygru ein profiad o’r byd.

Mae Gwynfyd yn gwrs byr, ymarferol sy’n gallu helpu ni ymdawelu. Does dim eisiau newid crefydd, neu gred oherwydd ein profiad o’r byd sydd dan sylw.

Bydd y cwrs yn dangos bod ganddon ni meddwl athrylith yn ogystal â meddwl ynfytyn – y llais sy’n malu awyr yn ein pennau.

Wedyn, trwy gyfres glir o recordiadau dechreuwn ddysgu sut i dawelu’n meddyliau, pan fydd eisiau, i ail-gysylltu â’r byd.

Comments on this entry are closed.